Get to grips with the basics of beekeeping and explore the biology of honeybees and their environmental benefits.
This 2 day course will give you a thorough grounding in understanding the lifecycles of honeybees as well as other types of bees and the different choices in the equipment you can use and the management styles you can adopt to become a bee-friendly beekeeper. You will have the chance to look inside a live honeybee colony and will be signposted to further training routes and support to start your own beekeeping adventure. Protective clothing provided.
---Key information---
Duration: two days
Date: Saturday 6th – Sunday 7th September 2025
Start and finish times: starts at 10.00am and ends at 4.00pm on the last day
Fees: £248
Includes: lunch, tuition, and all materials
Full board accommodation is available for this course: £97 for a single person bedroom. (This option will become available once you click “Available” or “Book Now” below)
What to bring: boots – preferably wellingtons and a pair of gloves – this should be something like a Marigold washing-up type glove of a size that fits the hand really snuggly.
---What you will learn---
Gain all the necessary information and handling skills to get you started with honeybees from passionate bee and beekeeping expert Jonathan Garratt. Jonathan will guide you through sympathetic beekeeping – working with honeybees in a more natural way.
Discover the importance and benefits of different types of bees in the natural environment, looking at their pollinating role, how to encourage them into your garden, differences in life cycles, problems they encounter and ways we can help.
Practical sessions with Jonathan’s bees will cover how to handle honeybees, the main workings of hives, different set ups available including frame and hive construction, and where to site hives. Find out where to source bees and what equipment is needed (and what isn’t!).
You’ll also learn how honey is processed, from hive to the table, and how beeswax is produced. There are many uses for both these products, and Jonathan will offer hints and tips as well as advice on useful books, magazines and websites.
CAT is situated in the UNESCO Dyfi Biosphere, and the site is home to a wide variety of ecosystems and wildlife. This course is a great way to learn about bees while spending some time de-stressing in a natural environment, becoming more aware of the natural rhythms of nature and your own senses.
Learn more👇
https://cat.org.uk/event/beekeeping-intensive/
.........................................
Cyfle i ddod i ddeall hanfodion cadw gwenyn ac archwilio bioleg gwenyn mêl a’u manteision amgylcheddol.
Bydd y cwrs 2 ddiwrnod hwn yn cynnig sylfaen drylwyr i chi mewn deall cylchoedd bywyd gwenyn mêl, yn ogystal â mathau eraill o wenyn a’r gwahanol ddewisiadau o ran yr offer y gallwch ei ddefnyddio a’r arddulliau rheoli y gallwch eu mabwysiadu er mwyn bod yn wenynwr sy’n ystyriol o wenyn. Byddwch yn cael y cyfle i weld y tu mewn i nythfa gwenyn mêl byw ac yn cael eich atgyfeirio i lwybrau hyfforddiant a chymorth pellach er mwyn i chi allu cychwyn ar eich antur cadw gwenyn eich hun. Darparir dillad diogelwch.
---Gwybodaeth allweddol---
Hyd: dau ddiwrnod
Dyddiad: Dydd Sadwrn 6 Medi – Dydd Sul 7 Medi 2025
Amseroedd cychwyn a gorffen: bydd yn cychwyn am 10.00yb ac yn gorffen am 4.00yp ar y diwrnod olaf
Ffioedd: £248
Yn cynnwys: cinio, ffioedd dysgu a’r holl ddeunyddiau
Mae llety llawn a phob pryd bwyd ar gael ar gyfer y cwrs hwn: £97 am ystafell wely i un person. (Bydd yr opsiwn hwn ar gael unwaith y byddwch yn clicio ar “Available” neu “Book Now” isod)
Beth fydd ei angen arnoch: esgidiau – esgidiau glaw yn ddelfrydol a phâr o fenyg – dylai’r rhain fod yn fenyg rwber golchi llestri, sy’n ffitio’n dynn dros y llaw.
---Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu---
Cewch yr holl wybodaeth angenrheidiol a’r sgiliau trin er mwyn i chi ddechrau cyfarwyddo â gwenyn mêl gan Jonathan Garratt, arbenigwr angerddol ynghylch gwenyn a chadw gwenyn.
Bydd Jonathan yn eich tywys trwy arferion cadw gwenyn sympathetig – gan weithio gyda gwenyn mêl mewn ffordd fwy naturiol.
Cewch ddysgu am bwysigrwydd a manteision gwahanol fathau o wenyn yn yr amgylchedd naturiol, gan ystyried eu rôl peillio, sut i’w hannog i ddod i’ch gardd, gwahaniaethau mewn cylchoedd bywyd, problemau y byddant yn dod ar eu traws a ffyrdd y gallwn helpu.
Bydd sesiynau ymarferol gyda gwenyn Jonathan yn ystyried sut i drin gwenyn mêl, prif elfennau ymarferol cychod gwenyn, gwahanol drefniadau gosod sydd ar gael gan gynnwys adeiladwaith fframiau a chychod gwenyn, a ble i leoli cychod gwenyn. Cewch wybod ble i gael gwenyn a pha offer y bydd ei angen (a pha offer na fydd ei angen arnoch!).
Byddwch hefyd yn dysgu sut y caiff mêl ei brosesu, o’r cwch i’r bwrdd, a sut y cynhyrchir cŵyr gwenyn. Ceir sawl defnydd ar gyfer y cynhyrchion hyn, a bydd Jonathan yn cynnig cyngor ac arweiniad, yn ogystal â chyngor am lyfrau, cylchgronau a gwefannau defnyddiol. Lleolir CYDA yn Biosffer Dyfi UNESCO, ac mae’r safle yn gartref i amrywiaeth eang o ecosystemau a bywyd gwyllt.
Mae’r cwrs hwn yn ffordd wych o ddysgu am wenwyn wrth dreulio ychydig amser yn ymlacio mewn amgylchedd naturiol, a dod yn fwy ymwybodol o rythmau naturiol byd natur a’ch synhwyrau chi.
Dysgu mwy👇
https://cy.cat.org.uk/event/cwrs-dwys-ar-gadw-gwenyn/
Also check out other Workshops in Machynlleth, Trips & Adventurous Activities in Machynlleth.